Ysmygu

Ysmygu yw'r prif achos salwch a marwolaeth buan y gellir ei atal yn y D.U. Bob blwyddyn, mae 120,000 o ysmygwyr yn marw yn y D.U. o ganlyniad i'w harferiad ysmygu. Mae ysmygu yn achosi 30% o bob marwolaeth o ganlyniad i ganser (gan gynnwys o leiaf 80% o farwolaethau canser yr ysgyfaint), 17% o bob marwolaeth clefyd y galon ac o leiaf 80% o farwolaethau o ganlyniad i froncitis ac emffysema.

Oeddech chi'n gwybod bod GWASANAETH DIM SMYGU CYMRU GYFAN yn cynnig cymorth i bobl sy'n dymuno rhoi'r gorau i ysmygu ac ni fydd yn costio ceiniog i chi?

Mae Dim Smygu Cymru yn wasanaeth GIG am ddim sy'n cynnig:

Rhwng 1 Ebrill 2007 a 31 Mawrth 2008, roedd 588 o bobl o Wrecsam yn cysylltu â'r Gwasanaeth Dim Smygu am gefnogaeth a 364 o'r rhain wedi mynychu o leiaf un sesiwn gydag Arbenigydd Rhoi'r Gorau i Ysmygu. Ar ôl mis, roedd dros 40% o'r bobl yn dal wedi rhoi'r gorau i sigaréts!

Oeddech chi'n gwybod ..... gall person sy'n ysmygu 20 sigarét y dydd arbed dros £1,000 mewn 6 mis os byddant yn rhoi'r gorau? Gall hynny dalu am wyliau braf yn yr haf!!

Ysmygu - Her Iechyd Wrecsam

Cysylltiadau Allanol: Ysmygu

ASH - Mae gwefan The Action on Smoking and Health yn darparu gwybodaeth ar roi'r gorau i ysmygu a thaflenni ffeithiau ar bob pwnc perthnasol i ysmygu a baco.

Sefydliad Cancr yr Ysgyfaint Roy Castle - yn darparu gwybodaeth a chyngor am sut i leihau'r perygl o ddatblygu cancr yr ysgyfaint.

Diwrnod Dim Ysmygu - Mae gan ymgyrch Diwrnod Dim Ysmygu wefan gyda gwybodaeth i ysmygwyr sydd eisiau rhoi'r gorau iddi. Mae'n amlygu'r llu o ffynonellau cymorth a chyngor sydd ar gael.

Dim Smygu Cymru - Gwybodaeth am roi'r gorau i ysmygu a sut i gael cymorth am ddim os ydych chi, neu rywun yr ydych yn ei adnabod, eisiau rhoi'r gorau i ysmygu.