Siop Info Wrecsam – yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.
Mae Siop INFO yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth i bobl ifanc rhwng 11-25 oed. Mae gan y siop glinig iechyd rhywiol i bobl ifanc ar ddydd Llun, dydd Mercher, a dydd Gwener 3-5.30pm. Gall pobl ifanc gael condomau, tabledi, pilsen y bore wedyn, pigiadau a mewnblaniadau atal cenhedlu a phrofion beichiogrwydd.
Mae condomau a phrofion beichiogrwydd ar gael pan fydd y siop ar agor (11.30 - 5.30, Llun, Mercher, Gwener, 11.30-4.30, Mawrth ac Iau)
Ceir Gwasanaeth Cynghori Outside In hefyd. Gwasanaeth mynediad agored yw hwn a gwneir apwyntiadau i ddiwallu anghenion unigol. Ar agor yn hwyr tan 7pm ar nos Fawrth a nos Iau.