Dewch i Gerdded Wrecsam

Mae Dewch i Gerdded Wrecsam, a reolir gan Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint ac a gyllidir gan y Loteri Fawr, yn cynnal teithiau cerdded am ddim dan arweiniad gwirfoddolwyr yn wythnosol a misol, ar gyfer y cyhoedd i bobl o bob oedran.   

Dechreuodd Dewch i Gerdded Wrecsam fel cynllun prawf yn 2001 ac mae wedi tyfu o nerth i nerth.  Yn 2007 bu Groundwork yn ddigon ffodus i sicrhau cyllid gan y Loteri Fawr i ddatblygu’r cyllid hyd at fis Mawrth 2010.  Mae’r cynllun yn gysylltiedig â Dewch i Gerdded Cymru, y cynllun cerdded cenedlaethol a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru.

Mae’r teithiau am ddim ac maent yn gyfle gwych i gyfarfod pobl newydd ac archwilio’r amgylchedd lleol.  

Ar hyn o bryd mae Dewch i Gerdded Wrecsam yn trefnu 10 daith iechyd wythnosol mewn llawer o gymunedau ynghyd â theithiau misol hirach ar gyfer y rheiny sydd wedi datblygu lefel eu ffitrwydd.  Darperir teithiau cerdded hefyd sydd wedi’u hanelu at grwpiau cymdeithasol gwahanol gyda ‘Camau Bach’ wedi’u hanelu at rieni a phlant a ‘Cerddwyr Calonog’ ar gyfer unigolion â thrafferthion dysgu/anableddau.  Mae’r cynllun hefyd yn gweithio gydag ysgolion a phobl ifanc gan ddarparu sesiynau Cyfeiriadu, Helfeydd Sborioni a theithiau teuluol.

Hysbysir y teithiau mewn llyfryn chwarterol a dosberthir 10,000 o daflenni bob 3 mis i leoedd fel llyfrgelloedd lleol, meddygfeydd, clinigau, deintyddion a chanolfannau cymunedol.  Os hoffech gopi, ewch i’ch Canolfan Groeso leol neu mae fersiwn y gellir ei lawrlwytho ar gael isod.

www.groundworkwrexhamandflintshire.org.uk