Cynllun i gael pobl hŷn i symud yn amlach a chynyddu eu lefelau o weithgaredd corfforol yw Symud yn Amlach.
Mae llawer o bobl hŷn yn cysylltu heneiddio gyda methu â gwneud y pethau y byddent yn eu mwynhau pan oeddynt yn iau!
Mae Symud yn Amlach yn rhoi cyfle i bobl hŷn gynyddu/cynnal y gweithgareddau byw dydd i ddydd y gallant eu gwneud yn annibynnol.
Nid yw’n ddosbarth ymarfer corff strwythuredig nac yn ddawns.
Mae yn hyrwyddo gweithgaredd corfforol a symud rheolaidd.
Newidiadau a Gysylltir â Heneiddio:
Y Manteision o Symud yn Amlach:
30 munud o weithgaredd corfforol 5 diwrnod neu fwy'r wythnos.
Gallai hyn fod yn amhosibl ac afrealistig i lawer o bobl hŷn!
Amcan Symud yn Amlach yw cynorthwyo pobl hŷn bregus i gynyddu’r amser a roddant i weithgaredd corfforol i lefel sy’n addas i’w hanghenion penodol nhw.
I gael gwybod mwy am Symud yn Amlach neu i fynegi diddordeb mewn mynychu sesiwn hyfforddi cysylltwch â Linda Mullock, Swyddog Prosiect Hybu Iechyd ar 01978 297063 neu ebost linda.mullock@wrexham.gov.uk