Bwyta'n Iach - Gwella Bwyd Mewn Canolfannau Ieuenctid

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnig grantiau o hyd at £4000 i Awdurdodau Lleol drwy gydol 2009 i wella bwyd mewn Canolfannau Ieuenctid.

Mae hyn yn golygu y bydd Canolfannau Ieuenctid yn gallu prynu peiriannau gwneud smwddis, gridyllau iach neu gyfarpar paratoi bwyd er enghraifft.

Mae Gwasanaethau Ieuenctid Wrecsam yn awyddus i wneud newidiadau o'r fath yn y Canolfannau Ieuenctid lleol. Fodd bynnag, mae'r grant yn ddibynnol ar staff canolfan ieuenctid yn cwblhau'r cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2 OCN.

Os oes gan unrhyw aelod o staff Canolfan Ieuenctid ddiddordeb mewn ymgymryd â'r cwrs, cysylltwch ag Amy Roche amy.roche@new-tr.wales.nhs.uk