Bwyta'n Iach (Lluniwyd gan: Alison Wilson)

Gall bwyta’n iach fod yn hawdd gan fod llawer o bethau y gallwch eu gwneud i wella eich deiet. Mae bwyta amrywiaeth o fwydydd yn ffordd dda o sicrhau y cewch ddeiet cytbwys. Mae’r plât bwyta’n iach yn golygu bod hyn yn haws ei ddeall drwy ddangos y mathau o fwydydd a faint o fwydydd sydd eu hangen arnom, i gael deiet iach, cytbwys.

I gael y cydbwysedd cywir dylem ddewis amrywiaeth o fwydydd o’r grwpiau gwyrdd, melyn, pinc a glas i ddarparu maetholion gwahanol sydd eu hangen i gael corff iach. Dylem hefyd geisio osgoi bwyta gormod o fwydydd o’r grŵp porffor - bwydydd a diodydd sy’n cynnwys lefelau uchel o fraster a/neu siwgr - gan nad yw’r rhain yn hanfodol ar gyfer deiet iach, ond maent yn dderbyniol yn awr ac yn y man. Mae’r plât bwyta’n iach yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o bobl dros ddwy oed ac ar gyfer y rhan fwyaf o ddeietau, os oes gennych gyflwr meddygol neu os bydd angen deiet arbennig arnoch efallai y bydd angen i chi ofyn i’ch Meddyg Teulu neu Ddietegydd Cofrestredig.

Mae rhagor o wybodaeth am y plât bwyta’n iach ar gael yn: www.eatwell.gov.uk/healthydiet/eatwellplate/  Am ystod o gyngor ar fwyta’n iach ewch i: www.bda.uk.com/foodfacts/index.html

Ffordd arall o wneud ein deiet yn iachach yw drwy leihau braster, yn enwedig braster dirlawn, siwgrau a halen ychwanegol. Mae’r system goleuadau traffig ar gyfer labeli bwyd wedi’i chynllunio i’n helpu i wneud dewisiadau iachach pan fyddwn yn siopa.

Er y gallai rhai labeli amrywio yn hyn o beth, mae’r syniad yr un peth: os oes gan y label olau coch mae’n golygu bod y bwyd yn cynnwys llawer o rywbeth y dylwn fwyta llai ohono, felly dim ond yn awr ac yn y man, neu fel eithriad y dylid bwyta’r bwyd hwn. Os oes gan y label olau oren mae’n dangos bod y bwyd yn cynnwys swm cymedrol o’r maetholyn hwnnw. Mae’n dderbyniol cael y rhain y rhan fwyaf o’r amser, ond efallai y byddai’n well dewis gwyrdd lle y bo modd, gan fod goleuadau gwyrdd yn dangos dewis iach.

Mae rhagor o wybodaeth am oleuadau traffig a’r cydbwysedd iach ar gael yn www.eatwell.gov.uk/foodlabels/trafficlights/

Bwriedir i’r wybodaeth hon fod yn ganllaw yn unig; ni ddylai gymryd lle cyngor dietegol arbenigol a roddir gan ddietegydd cofrestredig. Os oes gennych bryderon am eich iechyd neu eich deiet cysylltwch â’ch meddyg teulu am fwy o wybodaeth.

Lluniwyd gan: Alison Wilson, Dietegydd Myfyrwyr (Andrea Basu, Dietegydd sy'n Goruchwylio) Yr Adran Dieteg Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru (Dwyrain) Tach. 2008