Cynhaliwyd y digwyddiad hwn ar y 3ydd o Chwefror 2009 a darparodd y newyddion diweddaraf o ran maeth i bawb sy'n gweithio â merched beichiog a babanod ar draws Sir y Fflint a Wrecsam, yn enwedig bydwragedd, ymwelwyr iechyd, gweithwyr cymorth a gwirfoddolwyr. Mynychodd fwy na 50 o weithwyr iechyd proffesiynol / gweithwyr cymorth y digwyddiad a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru (Dwyrain), â chefnogaeth y Grant Gweithgaredd Lles a ddarparwyd i Gynghorau Sir y Fflint a Wrecsam. Cafodd ei oruchwylio gan bartneriaethau lleol i gefnogi Her Iechyd Cymru, a chafodd ei ddarparu mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill allweddol gan gynnwys Cychwyn Cadarn a Dechrau'n Deg (Wrecsam a Sir y Fflint).
Cynllunio a bwyta'n iach yn ystod beichiogrwydd
Fitamin D a'r Cynllun Cychwyn Iach
Gwybodaeth am fwydo babanod yn ystod beichiogrwydd
Deall colli pwysau mewn babanod sy'n cael eu bwydo ar y fron