Lansiwyd ymgyrch Blas am Oes Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2007 ac mae’n rhoi cyfarwyddyd strategol a chamau i awdurdodau lleol i’w cymryd i wella safonau maeth bwyd a diod a ddarperir mewn ysgolion ledled Cymru.
Dewiswyd Wrecsam fel un o bedwar awdurdod lleol yng Nghymru i gynnal cynllun peilot o brosiect ymchwil weithredu mewn ysgolion uwchradd, a fydd yn mynd rhagddo o 2008 tan 2010. Bydd datblygiad y prosiect ar lefel genedlaethol yn dibynnu’n fawr ar lwyddiant yr astudiaethau peilot lleol. Yn ogystal, ceir arian i gefnogi datblygiadau yn y sector cynradd yn Wrecsam yn ystod y cyfnod dwy flynedd hwn.
Bydd menter Blas am Oes yn nodi canllawiau i ysgolion i sicrhau bod darpariaeth bwyd a diod yn cyrraedd safon faethol addas. Mae canllawiau o’r fath yn cynnwys ffrwythau a llysiau i’w gweini bob dydd, pysgod olewog i’w gweini o leiaf unwaith bob pythefnos a dim cynnyrch melys neu siocled (er y caniateir cynnyrch coco).
I’r perwyl hwn, penodwyd dau aelod newydd o staff ym mis Tachwedd 2008: Tracey D’Allestro (Swyddog Cefnogi Blas am Oes Ysgolion Cynradd) a Stephanie Williams (Swyddog Cefnogi Blas am Oes Ysgolion Uwchradd). Byddant yn gweithio fel rhan o dîm Ysgolion Iach Wrecsam i gefnogi’r Gwasanaeth Arlwyo, Penaethiaid a Dietegwyr i gefnogi ysgolion i roi Canllawiau Blas am Oes ar waith.
Bydd Blas am Oes yn ategu fersiwn ddiwygiedig Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru, sydd bellach yn cynnwys mwy o addysgu bwyd a sgiliau ymarferol o fewn y Cwricwlwm Dylunio a Thechnoleg, yn ogystal â’r Cyfnod Sylfaen a’r Fframwaith ABCh gan gefnogi’r agenda bwyta’n iach hefyd. O fis Medi 2008, gwnaed sgiliau paratoi bwyd ymarferol yn orfodol yng Nghyfnod Allweddol 2 a 3.
Mae rhagor o gymorth ar gael i ysgolion ar ffurf ymweliadau gan Fws Coginio Llywodraeth Cynulliad Cymru, sef cerbyd symudol a gynlluniwyd yn arbennig gyda phedair cegin hollgynhwysol, a ddefnyddir gan athrawon technoleg fwyd cymwys. Mae’r bws yn galluogi plant a phobl ifanc i gael profiad o arferion coginio ymarferol mewn amgylchedd diogel a hyfforddiant i athrawon a staff ysgolion i ddatblygu bwyd a choginio yn yr ysgol yn dilyn yr ymweliad. Ym mis Tachwedd 2008, ymwelodd y bws coginio â disgyblion a staff yn Ysgol Bodhyfryd, Wrecsam.