Mae deiet da yn bwysig ar gyfer iechyd da. Gall deiet iachus a chytbwys helpu i gynnal pwysau corff iach, gwella lles yn gyffredinol a lleihau’r risg o nifer o glefydau gan gynnwys clefyd y galon, strôc, cancr, diabetes ac osteoporosis.
Mae deiet cytbwys iach yn cynnwys amrywiaeth o wahanol fathau o fwyd, gan gynnwys llawer o ffrwythau, llysiau a bwydydd llawn starts megis bara cyflawn a grawnfwydydd cyflawn; rhai bwydydd sy’n gyfoethog mewn protîn megis cig, pysgod, wyau a ffacbys; a rhai mathau o gynnyrch llaeth. Hefyd bwyd sy’n isel mewn braster (yn enwedig braster dirlawn), halen a siwgr.
Nid oes un math unigol o fwyd a all roi’r holl faetholion hanfodol sydd eu hangen ar y corff. Felly, mae’n bwysig bwyta ystod eang o fwydydd er mwyn cael digonedd o fitaminau, mwynau a ffeibr dietegol, sy’n bwysig i’ch iechyd.
Cofiwch…
Blas am Oes - Darganfod sut y bydd ysgolion ledled Wrecsam yn gwella safonau maeth bwyd a diod a ddarperir ar gyfer disgyblion.
Bwyta'n Iach - Gall bwyta'n iach fod yn hawdd gan fod llawer o bethau y gallwch eu gwneud i wella eich deiet. Mae bwyta amrywiaeth o fwydydd yn ffordd dda o sicrhau y cewch ddeiet cytbwys
Gwella Bwyd Mewn Canolfannau Ieuenctid - Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnig grantiau o hyd at £4000 i Awdurdodau Lleol drwy gydol 2009 i wella bwyd mewn Canolfannau Ieuenctid.
Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol (Fersiwn PDF 4.5Mb) - Cafodd y cwrs hwn ei ddylunio yn benodol i ddarparu lefel sylfaenol o wybodaeth am fwyd a maeth i’r rheiny sy’n gweithio gyda grwpiau allweddol yn y gymuned
Bwmp i'r Babi - Cynhaliwyd y digwyddiad hwn ar y 3ydd o Chwefror 2009 a darparodd y newyddion diweddaraf o ran maeth i bawb sy'n gweithio â merched beichiog a babanod ar draws Sir y Fflint a Wrecsam.
Prosiect Newydd i Helpu i Atal Diffyg Maeth ymhlith Oedolion Hŷn sy’n Byw yn y Gymuned
Taflen 5 y dydd - fersiwn PDF 150Kb ![]()
Syniadau Iach i'ch Bocs Bwyd - fersiwn PDF 765Kb ![]()
Bocsys Bwyd Mwy Iach, Plant Mwy Iach - fersiwn PDF 154Kb ![]()
Cysylltiadau Allanol: Bwyta'n IachY Cyfaill Coginio Cardiaidd - Mae’r llyfr rysetiau hwn wedi ei gynhyrchu gan y Tîm Adferiad Cardiaidd ac Adran Deieteg Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru gyda chymorth Cymdeithas Cleifion Cardiaidd Prydain a Grŵp Cefnogi Cardiaidd Wrecsam. Amcan y llyfr yw hyrwyddo bwydydd sydd â buddiannau cardiaidd-amddiffynnol a darparu ryseitiau fforddiadwy a hawdd i’w paratoi a chyfle i chi fod yn fwy mentrus gyda’ch dewisiadau bwyd a gwella eich sgiliau coginio ar yr un pryd.
Asiantaeth Safonau Bwyd - Yn diogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau'r cwsmer mewn perthynas â bwyd.
Bwyta'n Iach - yw safwe gwybodaeth a chyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae'n llawn o gyngor dibynadwy ac ymarferol am fwyta’n iach, deall labeli bwyd a sut y gall yr hyn a fwytawn effeithio ar ein hiechyd.
GIC '5 y dydd' - Gwybodaeth werthfawr wedi'i darparu gan y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ynghylch bwyta mwy o ffrwythau a llysiau.
Sefydliad Maeth Prydain - Yn darparu gwybodaeth am fwyta'n iach.
Sefydliad Prydeinig y Galon - Safwe defnyddiol ar gyfer gwybodaeth am ddietau iach i gynorthwyo i leihau'r perygl o ddatblygu clefyd y galon.
Sustain - Y gynghrair ar gyfer gwell bwyd a ffermio.
Rhandiroedd – Am dyfu eich bwydydd iach eich hun?
Diogelwch Bwyd – Cyngor i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn rhydd o halogiad.