07 Chwefror 2009
'Change4Life' (Newid am Oes)Yn ddiweddar, lansiwyd y fenter "Change4Life" (Newid am Oes) gan yr Adran Iechyd yn Lloegr, gyda'r nod o helpu teuluoedd i fwyta'n iach, symud mwy a byw yn hirach.
Mae gennym ymgyrch debyg ar y gweill yng Nghymru o'r enw Her Iechyd Cymru sy'n hybu ffyrdd iachach o fyw, a bwyd a gweithgarwch corfforol yw un o brif themâu'r rhaglen.