Grwpiau Wrecsam yn Derbyn Hwb Sylweddol I'w Coffrau

04 Tachwedd 2008

Grwpiau Wrecsam yn Derbyn Hwb Sylweddol I'w Coffrau

Mae un ar ddeg o grwpiau ar fin derbyn hwb ariannol yn dilyn cais llwyddiannus am arian grant fel rhan o Wythnos Her Iechyd Wrecsam.

Bydd hi'n bosibl i roi amryw o fentrau newydd ar waith ledled y Fwrdeistref Sirol diolch i gronfa oedd yn caniatau i grwpiau wneud cais am hyd at £1000 yr un.

Mae'r arian wedi caniatáu i'r grwpiau brynu offer ar gyfer gweithgareddau, cynhyrchu llyfrynnau ryseitiau iach, darparu sawl brecwast iach, ynghyd â galluogi un grŵp i brynu cynhwysion i gynnal sesiynau coginio.

Bu hyn yn bosibl diolch i nawdd o £25,000 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i hyrwyddo Her Iechyd Wrecsam.  Dosbarthwyd cyfanswm o £10,423.71 i grwpiau amrywiol o fewn y Fwrdeistref Sirol i helpu Wrecsam i ddod yn le iachach a mwy heini i fyw a gweithio ynddo.

Un o'r grwpiau llwyddiannus yw Pwyllgor Datblygu Coedpoeth.  Dywedodd Jeanette Blackford y byddai eu £1,000 yn helpu i brynu offer a chyfarpar i ddarparu Prosiect Gardd Gymunedol, ar ddarn o dir ger canolfan newydd Plas Pentwyn.  Dywedodd:  "Mae hwn yn ddechrau ardderchog i'n prosiect. Y syniad yw cynnwys y gymuned gyfan ac adeiladu gwelyau blodau uwch i dyfu llysiau, gardd blodau gwyllt a phlannu rhai coed ffrwythau."

Gobeithir y bydd y prosiect, a sefydlwyd i'r gymuned gan y gymuned yn cynnwys pob grŵp oedran o blant ysgolion lleol i bobl hŷn.  Bydd yr ardd yn gyraeddadwy i bawb ac yn helpu i hyrwyddo bwyta iach ac ymarfer corff.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, y Cynghorydd Joan Lowe:  "Rydym yn gweithio'n galed gyda'n partneriaid i godi ymwybyddiaeth o'r materion sy'n ymwneud ag iechyd a lles.  Erbyn hyn mae gennym fwy o gyfleoedd i atgyfnerthu'r neges y gall gwneud newidiadau syml i'n ffordd o fyw wneud gwahaniaeth mawr i'n hiechyd a'n lles."

Cyflwynodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd David Griffiths y sieciau i bob un o'r un ar ddeg grŵp heddiw.  Dywedodd:  "Mae hyn yn ffordd wych o alluogi ein cymunedau i helpu eu hunain i ddod yn fwy heini ac iach.  Dymunaf y gorau iddynt gyda phob un o'u prosiectau."