Alcohol Argymhellir bod merched yn yfed dim mwy na 2-3 uned o alcohol y dydd a 3-4 uned y dydd i ddynion. Ceisiwch gael o leiaf un neu ddau ddiwrnod heb alcohol bob wythnos. Os gallwch gadw at hyn ni fydd perygl sylweddol i’ch iechyd. Nid yw hyn yn golygu y gallwch gasglu eich unedau dyddiol drwy gydol yr wythnos a gor-yfed ar y penwythnos!
Cofiwch – gall yfed mwy na’r unedau a argymhellir ar un waith fod yn niweidiol i’ch iechyd.
Ydych chi’n gwybod sawl uned fyddwch chi’n ei yfed?
Ystyriwch sawl uned y tybiwch eich bod yn yfed yn ystod yr wythnos ac yna darllenwch yr wybodaeth isod a gweld pa mor gywir ydych chi!
| Math o Alcohol | Unedau yn ôl gwydriad |
|---|---|
| Potel 330ml o gwrw | 1.7 |
| Can 440ml o lager cryf | 4 |
| Peint o gwrw arferol | 2 |
| 1 peint o seidr cyffredin | 2.8 |
| Potel 275ml o seidr cryf | 2.3 |
| Gwydr 50ml o sieri | 0.9 |
| Potel 275ml o alcopops | 1.4 |
| 35ml o chwisgi neu frandi | 1.4 |
| 35ml o jin/fodca neu rym | 1.3 |
| Gwydr 175ml o win (12% cyf) | 2.1 |
| Potel 750ml o win/champagne (12% cyf) | 9 |
(ffynhonnell: Drinkaware)
Sut wnaethoch chi? Oes angen i chi newid eich arferion yfed?
Bydd lleihau alcohol yn helpu i chi leihau’r calorïau e.e. mae gwydr arferol o win (125ml) tua 165 calori!
Dyddiadur Yfed - fformat PDF 422Kb ![]()
Defnyddir y term Camddefnyddio Sylweddau i ddisgrifio’r defnydd o gyffuriau anghyfreithlon, neu ddosau uwch nag yr argymhellwyd gan feddyg neu fferyllydd o feddyginiaethau rhagnodedig, neu feddyginiaethau y gellir eu prynu dros y cownter.
Sylwedd cemegol sydd yn gweithredu ar yr ymennydd a’r system nerfol, i newid tymer, emosiwn neu stad ymwybodol unigolyn yw cyffur.
Mae cyffuriau yn cael eu dosbarthu’n aml yn ôl eu heffaith.
Bod yn ddibynnol ar gyffuriau yw un o beryglon pennaf camddefnyddio sylweddau. Mae dau brif fath o ddibyniaeth:
Dibyniaeth gorfforol: pan geir symptomau ‘rhoi’r gorau’, fel cyfog, chwydu neu boen yn y bol, os yw’r cyffur yn cael ei atal yn sydyn.
Dibyniaeth seicolegol: pan geir gorfodaeth seicolegol neu angen i ddefnyddio cyffur yn rheolaidd. Nid oes unrhyw symptomau corfforol os yw’r cyffur yn cael ei atal ond fe ellir cael symptomau seicolegol fel iselder, pryder a sensitifedd.
Am gymorth a chyngor, cysylltwch â llinell gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru ar 0800 633 5588, mae hon yn llinell gymorth 24 awr 7 diwrnod yr wythnos.
Gwasanaeth llinell gymorth dwyieithog am ddim ydi gwasanaeth Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru, y mae Ymddiriedloaeth GIG Gogledd Cymru yn cynnig cartref iddo ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei ariannu. Mae’n darparu un pwynt cyswllt I unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau gwybodaeth bellach neu help mewn perthynas a materion sy’n ymwneud a chyffuriau neu alcohol.
Bydd y llinell gymorth yn cynorthwyo unigolion, eu teuluoedd a’u gofalwyr I fanteisio ar wasanaethau lleol a rhanbarthol priodol.
Mae’s gwasanaeth hwn ar gael 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos.
Rhadffon 0800 6 33 55 88
In2Change Tîm Alcohol A Chyffuriau i Bobl Ifanc - fformat 282Kb ![]()
In2Change Canllaw i Bobl Ifanc - fformat 407Kb ![]()
In2Change Canllaw i Rieni, Gofalwyr a Gwasanaeth au Eraill - fformat 375Kb ![]()
Alcohol Concern - Mae Alcohol Concern yn darparu nifer o daflenni ffeithiau ar bob pwnc sy'n gysylltiedig ag alcohol.
CAIS - Cymorth lleol ar gyfer problemau a achoswyd gan gamddefnydd o alcohol a chyffuriau.Local help for problems caused by the misuse of alcohol and drugs.
Talk to Frank - Gwybodaeth am beryglon camddefnyddio cyffuriau.