Damweiniau ac anafiadau

Bob blwyddyn yn y DU mae bron i 4,000 o bobl yn marw oherwydd damweiniau yn y cartref ac oherwydd hynny, mae’n rhaid i 2.7 miliwn o bobl fynd i adrannau damweiniau ac achosion brys i gael triniaeth.

Y math mwyaf cyffredin o ddamwain yw syrthio, a all achosi anaf difrifol neu hyd yn oed fod yn angheuol a gall hyn ddigwydd waeth beth fo’ch oedran. Mae 55% o’r holl ddamweiniau sy’n digwydd gartref yn cynnwys syrthio.

Plant o dan 5 oed a phobl dros 65 oed yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o gael damwain yn y cartref.

Gall damweiniau ddigwydd yn aml ar y ffyrdd. Yn Wrecsam yn ystod 2008 lladdwyd dau unigolyn o ganlyniad i fod mewn damwain traffig ar y ffordd. Anafwyd 54 o bobl yn ddifrifol (torri esgyrn, anafiadau mewnol, llosgiadau ac ati..) a chafodd bron i 300 o bobl fân anafiadau oherwydd damwain traffig ar y ffordd.

Gall adran Diogelwch y Ffyrdd CBSW roi cyngor a gwybodaeth am sawl menter barhaus a byddant yn fwy na pharod i siarad yn gyhoeddus, neu roi cyflwyniadau i grwpiau cymunedol. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r tîm ar 01978 297138.

Isod ceir dolenni defnyddiol i fentrau parhaus yn Wrecsam i helpu i osgoi damweiniau yn y cartref ac wrth ddefnyddio’r ffyrdd.

Neges mewn Potel a Neges mewn Waled – Rhagor o wybodaeth am y mentrau hyn a gymeradwyir gan y gwasanaethau brys.

Cynllun Diogelwch Plant - fformat PDF 134Kb – Oes gennych chi hawl i gael offer diogelwch plant am ddim?

Surefeet - fformat PDF 103Kb – Cynllun cymunedol ar gyfer llithro, baglu a syrthio.

Beicio Diogel Cymru - Mewn cydweithrediad â Heddlu Gogledd Cymru, dyma gwrs a gynigir i fotorbeicwyr ar reoli diogelwch ar y ffyrdd a chymorth cyntaf i fotorbeicwyr.
Ffoniwch 01978 297138 am ragor o wybodaeth.

Dangerpoint - Canolfan addysg diogelwch rhyngweithiol a leolir yn Nhalacre ar arfordir Gogledd Cymru.

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru – Gwiriadau diogelwch cartref am ddim sy’n cynnwys gosod canfodyddion mwg.

Pass Plus Cymru – Cwrs pass plus a addaswyd yn arbennig y gallwch ei ddilyn ar ôl llwyddo yn eich prawf gyrru. Bydd y cwrs yn eich helpu i leihau eich risg o fod mewn damwain car.

RoSPA (Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau yng Nghymru) - Hybu diogelwch ac atal damweiniau ym mhob maes o fywyd - yn y gwaith, yn y cartref, ar y ffyrdd, mewn ysgolion, mewn canolfannau hamdden ac ar (neu'n agos at) ddŵr.

Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau i Blant - Taflenni ffeithiau ardderchog ar leihau damweiniau yn ac o amgylch y cartref.

Kid Rapt - Diogelwch y Plentyn - Gwybodaeth ddefnyddiol ar atal damweiniau gyda mesurau plant a diogelwch plant.

Mae Tân yn Lladd (Gallwch ei Rwystro) - Cynghorion defnyddiol ar ddiogelwch tân. Gwybodaeth am wiriadau diogelwch yn y cartref am ddim gan griwiau gweithredol y Gwasanaeth Tân.

Adran Drafnidiaeth (Hedgehogs) - Mae Hedgehogs yn fenter wedi'u hanelu at gael plant i ddysgu rheolau'r groes werdd.

Asiantaeth Safonau Gyrru - Gwybodaeth am yrru diogel.

Passplus - Gwybodaeth am y cwrs passplus a gynlluniwyd gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru ar gyfer gyrwyr newydd.